Hysbysiad Preifatrwydd y Pwyllgor - Adendwm

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i dderbyn ymatebion llafar fel rhan o’i ymgynghoriad ar yr adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

 

Mae'r Adendwm hwn yn nodi sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw gyfraniadau llafar sy’n dod i law. Yn benodol, mae’r Adendwm yn trafod achosion lle bo gwneud recordiad llais yn arwain at brosesu data mewn ffordd sy’n ychwanegol i'r hyn a nodir ym mhrif Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd.

 

Byddwn yn defnyddio'r nodweddion recordio a thrawsgrifio o fewn Microsoft Teams Premium i greu recordiad a thrawsgrifiad o'r sgwrs i gofnodi'ch atebion i'r cwestiynau sy'n ymddangos ar y ffurflen ar-lein. Rydym yn prosesu’r wybodaeth hon yn y modd hwn i gofnodi’n gywir eich ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad.

 

Bydd y trawsgrifiad awtomataidd yn cael ei ddefnyddio fel sail i'ch cyflwyniad. Caiff y trawsgrifiad awtomataidd hwn ei adolygu gan y staff sy'n cefnogi'r pwyllgor i sicrhau ei fod yn adlewyrchu eich cyfraniad llafar yn gywir. Bydd y fersiwn hon o’r trawsgrifiad (“y cyfraniad”) yn cael ei rhannu gyda chi i roi cyfle ichi wneud unrhyw sylwadau arni cyn iddi gael ei chyhoeddi.

 

Bydd y cyfraniad yn cael ei drin yn yr un modd â’r holl dystiolaeth ysgrifenedig arall a gyflwynir i’r Pwyllgor, fel yr amlinellir yn y prif hysbysiad preifatrwydd. Bydd y ffordd y caiff y cyfraniad ei gyhoeddi yn dibynnu ar natur eich cyfranogiad; hynny yw, a ydych yn cymryd rhan o safbwynt personol neu broffesiynol, fel yr amlinellir yn y prif hysbysiad preifatrwydd. Fel arfer, bydd cyfraniadau ar gael i'r cyhoedd eu darllen ar dudalen we'r ymgynghoriad.

 

Byddwn yn cadw copi o’r recordiad tan ddiwedd tymor presennol y Senedd, pan fydd yn cael ei ddileu’n ddiogel. Cedwir y recordiad am y cyfnod hwn i sicrhau bod y cyflwyniad yn adlewyrchiad cywir o'r sgwrs a gynhaliwyd a'r atebion a ddarparwyd gennych.

 

Mae ein seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol yn parhau’n gyson â’r hyn a nodir yn y prif hysbysiad preifatrwydd. Trwy wneud recordiad sain o'ch llais, byddwn yn prosesu data personol mewn categori arbennig. Y rheswm am hyn yw bod llais person yn rhan o ddata biometrig y person hwnnw, sy’n cael eu trin fel data personol categori arbennig o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU.

 

Caiff data categori arbennig eu prosesu ar y sail eu bod yn angenrheidiol er budd sylweddol i'r cyhoedd (fel y darperir yn Erthygl 9(2) (g) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018). Mae galluogi’r Pwyllgor Cyllid i dderbyn cyfraniadau llafar fel rhan o’i adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 er budd sylweddol i’r cyhoedd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut y byddwn yn storio eich gwybodaeth, gweler y prif hysbysiad preifatrwydd. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial gan Microsoft i brosesu eich gwybodaeth.